Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae pob un ohonom wedi gweld effeithiau’r argyfwng hinsawdd yn gwaethygu’n gyflym. Does dim un rhanbarth yn y byd sydd heb ei gyffwrdd gan lifogydd, stormydd, sychder, tanau gwyllt a thywydd poeth, wrth i gyfartaledd tymheredd y byd godi mwy nag 1.1°C, ac wrth i allyriadau ddal i gynyddu. Nid yw tymereddau erioed wedi codi na gostwng mwy na 0.5°C yn y miliwn o flynyddoedd ers i fodau dynol ddechrau esblygu o fwncïod. Mae’r dystiolaeth wyddonol orau yn dangos bod perygl, os ydym yn gadael i’r tymheredd godi i fod fwy nag 1.5°C yn uwch na’r lefelau cyn-ddiwydiannol, y byddwn yn colli rhai ecosystemau am byth, ac mae angen i ni haneru allyriadau byd-eang erbyn 2030 er mwyn cadw o dan y lefel hon. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gweld hanner digon o weithredu gan lywodraethau cenedlaethol na busnesau mawr.
Mae angen i lywodraethau’r byd fynd yn llawer iawn pellach, ond mae hefyd yn gwneud gwaith unigolion a sefydliadau nad ydynt yn gysylltiedig â gwladwriaethau gymaint yn fwy hanfodol.
Un o ofynion C40 yw bod yn rhaid i bob dinas sy’n ymaelodi gael cynllun cadarn er mwyn cyflawni ei chyfran deg o’r nod o haneru allyriadau byd-eang erbyn 2030 a chwarae ei rhan er mwyn cyrraedd y targed hwn. Mae’r meini prawf hyn wedi cael eu cydnabod gan y Cenhedloedd Unedig – adolygwyd y dystiolaeth gan eu Grŵp Arbenigol Lefel Uwch, a sefydlwyd er mwyn gosod safonau mewn polisïau sero net, a dywedodd fod yn rhaid i gynlluniau newid hinsawdd gynnwys toriadau dwfn mewn allyriadau cyn 2030.
O’n profiad ni, mae gosod nod a gwneud cynllun yn rhoi canolbwynt i’r gweithredu, ac mae ein data yn dangos bod dinasoedd dair gwaith yn fwy tebygol o gymryd y camau angenrheidiol i dorri allyriadau os oes ganddynt dargedau a chynllun. Canfu dadansoddiad yn ddiweddar fod camau gweithredu sy’n cael effaith fawr yn ninasoedd C40, er enghraifft lleihau traffig, caffael bysiau allyriadau sero a rheoleiddio er mwyn sicrhau adeiladau carbon sero, wedi treblu yn y deng mlynedd diwethaf.
Yn C40, nid ydym yn gosod y targedau hyn oherwydd ei bod yn hawdd – canfu ein dadansoddiad, er gwaethaf llwyddiannau anhygoel ein dinasoedd, fod angen i ni dreblu camau gweithredu sy’n cael effaith fawr o hyd er mwyn cyflawni ein nodau – rydym yn gwneud hyn oherwydd bod y wyddoniaeth yn galw am weithredu yn fuan, ac ar raddfa fawr, er mwyn atal newid hinsawdd difrifol sydd allan o reolaeth, ac oherwydd ein bod yn adeiladu dyfodol y byddai pob un ohonom yn hoffi byw ynddo. Dyfodol gwyrddach, tecach ac iachach i bawb.
Rydym yn gwneud hyn hefyd gan mai’r ffordd unigol orau o ddenu buddsoddiad cyhoeddus a phreifat ar gyfer prosiectau hinsawdd yw trwy sefydlu rheoliadau a pholisïau cryf a chlir. Mae gosod targedau, a chynllun i’w cyflawni, yn dangos yn glir i ba gyfeiriad y mae angen mynd ac yn helpu i ddylanwadu ar farchnadoedd.
Rydym hefyd yn credu’n gryf na allwch siarad am atal newid hinsawdd heb siarad am degwch. Gwledydd Gogledd y Byd - UDA, Canada, Ewrop, Israel, Awstralia, Seland Newydd a Japan – sy’n gyfrifol yn hanesyddol am 92% o’r allyriadau ychwanegol a basiodd y terfyn planedol diogel o 350 ppm o garbon deuocsid yn yr atmosffer, ond gwledydd De’r Byd sy’n dioddef fwyaf wrth i dymereddau godi. Mae’r un peth yn wir yn y rhan fwyaf o wledydd – mae canran fach o’r bobl fwyaf cyfoethog yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r allyriadau trwy lefelau defnydd uchel iawn, ond y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd sydd â’r llygredd aer mwyaf ac mewn cartrefi sydd heb eu hinswleiddio’n dda yw’r bobl dlotaf. O ganlyniad, mae a wnelo gweithredu ar newid hinsawdd â chyfiawnder.
Mae profiad C40 yn dangos grym cydweithredu. Trwy godi uchelgeisiau a chydweithio tuag at nodau cyffredin mae’n bosibl i grŵp o sefydliadau sy’n gweithio gyda’i gilydd gyflawni mwy nag y gallai’r sefydliadau unigol ei gyflawni ar eu pen eu hunain. Dyna pam y mae Ras i Sero yn cynnig cymaint o obaith yn fyd-eang – mae uno gydag eraill yn helpu pawb i symud ar gyflymder y cyflymaf. Rydym wedi gweld y dull gweithredu hwn yn llwyddo yn Nenmarc, ac mae hynny wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr i Ras i Sero Cymru. Rwy’n falch o weld y gwaith hwn yn dechrau o ddifri yng Nghymru ’nawr, ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth fydd yn cael ei gyflawni trwy gydweithio tuag at ddyfodol gwell i bawb.
