Cwestiynau Cyffredin
Beth yw Ras-i-Sero?
Mae Ras i Sero yn fframwaith rhyngwladol i gyflymu gweithredu hinsawdd ac adeiladu dyfodol tecach, iachach, gwyrddach.
Mudiadau fel dinasoedd, rhanbarthau, awdurdodau lleol, parciau cenedlaethol, busnesau a phrifysgolion,yn cyrraedd ‘rhan teg’ o’r ymdrech i gyrraedd gol Cytundeb Paris i leihau codiad tymheredd y byd i 1.5 gradd.
Yna maent yn datblygu cynllun gweithredu ar gyfer yr ardal leol, neu sefydliad sy'n cynnwys ystod eang o randdeiliaid i wneud yn siŵr ei fod wedi'i deilwra i gefnogi trosglwyddiad cyfiawn i sero net. Mae sefydliadau Ras i Sero yn adrodd ar weithredu hinsawdd trwy broses a gydnabyddir yn rhyngwladol i sicrhau trylwyredd a thryloywder.
Pa sefydliadau ddylai ymuno â Ras i Sero?
Mae’r tabl hon yn esbonio sut mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig, awdurdodau lleol, byrddau gwasanaethau cyhoeddus, parciau cenedlaethol a chynghorau trefol yn gallu cysylltu eu gwaith gyda Ras i Sero – ac esiamplau yn dangos sut mae hwn yn digwydd yn barod.
Pam fod angen Ras i Sero yng Nghymru?
Mae Ras i Sero yn helpu sefydliadau i fod yn arweinwyr hinsawdd gydag uchelgais clir yn unol â Chytundeb Paris, a chymorth i ddatblygu cynlluniau gweithredu cynhwysol a'r gallu i gyflawni.
Datganodd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yng Nghymru argyfwng hinsawdd, ond nid oes ganddynt gynllun ar gyfer trosglwyddiad cyfiawn i sero net yn eu hardal leol. Mae Ras i Sero yn helpu sefydliadau sydd â chyfrifoldeb am faes i arwain proses gynhwysol o gynllunio a chyflawni gweithredu ar yr hinsawdd
Mae’r sector cyhoeddus yn canolbwyntio ar yr ymgyrch i dorri allyriadau carbon o fewn ei gweithrediadau a gwasanaethau mewnol. Mae hwn yn bwysig ac angen cael ei cefnogi i lwyddo. Ond mae allyriadau sy’n cael ei reoli gan y sector cyhoeddus ond yn rhan bach o’r holl allyriadau fedryn nhw dorri trwy arwain gweithgareddau cynwysiedig dros ardaloedd fwy.
Sut gall cymunedau elwa?
Mae Ras i Sero yn annog cynllunio gweithredu cynhwysol i wneud yn siŵr bod cymunedau yn cymryd rhan weithredol mewn cyd-ddychmygu a chreu dyfodol sero net ar gyfer eu hardal leol.
Gall cymunedau carbon isel sydd wedi’u cynllunio’n dda elwa ar welliannau i’r amgylchedd, yr economi ac iechyd lleol gan gynnwys drwy:
- Tai wedi'u hinswleiddio'n well a biliau is
- Gwell trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol, a mwy o deithio llesol fel cerdded a beicio
- Bwyd iachach a dyfir yn lleol
- Twf mewn swyddi gwyrdd lleol gyda buddsoddiad mewn hyfforddiant a sgiliau
Mae gan Gymru nod Sero Net y Sector Cyhoeddus a mecanwaith adrodd yn barod – pam mae angen unrhyw beth arall arnom ni?
Mae Nod Sero Net Sector Cyhoeddus Cymru erbyn 2030 ac Adrodd Sero Net Cymru Reporting yn canolbwyntio ar weithgareddau gweithredol y sefydliadau hynny.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd datgarboneiddio gweithrediadau’r sector cyhoeddus yn cael effaith ehangach ar gymdeithas:
Canfu’r Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd fod allyriadau gweithredol awdurdodau lleol (gan gynnwys y nwyddau a’r gwasanaethau y mae’n eu caffael) yn cynrychioli tua 2-5% o allyriadau lleol..
Felly, mae’r dasg o ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus yn bwysig (yn anad dim oherwydd ei fod yn dangos uniondeb a gellir helpu ysgogi arloesedd ac ymatebion y farchnad) ac mae angen ei wneud, ond mae’n cynrychioli ffracsiwn bach o allyriadau cyffredinol y wlad.
Canfu’r Pwyllgor Newid Hinsawdd y gall awdurdodau lleol gael dylanwad dros tua 30% o allyriadau yn yr ardal leol. Canfuwyd na chaiff y Chweched Gyllideb Garbon ei fodloni os na chaiff yr allyriadau lleol ehangach hyn eu torri.
Mae awdurdodau lleol a gweithredwyr eraill gan gynnwys CJCs a pharciau cenedlaethol yng Nghymru eisoes yn arwain gweithredu hinsawdd ehangach yn eu hardaloedd lleol. Mae llawer wedi datgan argyfwng hinsawdd sydd wedi codi disgwyliadau’r cyhoedd ohonynt yn arwain gweithredu ar draws y gymdeithas
Y broblem yw, ac eithrio Cynlluniau Ynni Ardal Leol, nad oes unrhyw ddull cyson yn cael ei gymryd tuag at weithredu hinsawdd diriogaethol/ar sail ardal sy’n arwain at:
- Uchelgais a graddfa is, a chyflymder gweithredu nag y dywed y wyddoniaeth sydd ei angen , oherwydd diffyg nodau ardal clir.
- Anallu i gydweithio'n effeithiol ac effeithlon rhwng sefydliadau ac ar draws ardaloedd daearyddol..
- Diffyg eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau mewn ardaloedd lleol – ac felly bylchau enfawr yn y ddarpariaeth a pheth dyblygu.
Diffyg tryloywder rhwng sefydliadau, rhanddeiliaid a’r cyhoedd – gan arwain at erydu ymddiriedaeth a diffyg hyder mewn gweithredu ar yr hinsawdd.
What are Beth yw'r gwahaniaeth rhwng allyriadau gweithredol ac allyriadau tiriogaethol neu ar sail ardal, yw Cwmpas 1, 2 a 3??
Allyriadau gweithredol :Mae gweithredoedd mudiad yn creu allyriadau gweithredol – o adeiladau a threfnidiaeth i allyriadau sy’n dod allan o’r nwyddau a gwasanaethau. Mae nhw’n cael eu cyfru o fewn yr adroddiadau o fewn y Sector Cyhoeddus Sero Net erbyn 2030.
Mae allyriadau tiriogaethol Mae allyriadau tiriogaethol yn dod o danwyddau ffosil sy’n rhyddhau yn uniongyrchol neu sy’n cael eu defnyddio o fewn tirigaeth fel gwlad neu awdurdod lleol.
Amrediad 1: Allyriadau uniongyrchol – fel esiampl, llosgi tanwyddau ffosil ar gyfer gwres neu trydan, neu cebyd efo injan sy’n hylosgi’n mewnol.
Amrediad 2: Allyriadau anuniongyrchol o egni – fel esiampl y defnydd o drydan sydd wedi eu prynu.
Mae dadansoddi allyriadau sy’n cael eu cynhyrchu allan o dreuliant yn ystyried bywyd cyfan nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu defnyddio gan pobl, gan cynnwys allyriadau sy’n cysylltiedig a mewnforion ac allforion.
Amrediad 3: Allyriadau anuniongyrchol o fewn nwyddau a gwasanaethau – y defnydd sy’n mynd i fewn ac allan.
I ddeall yr allyriadau o fewn ardal lleol fel awdurdod neu rhanbarth, mae’n bwysig deall allyriadau sy’n cael eu cynhyrchu ac allyriadau sy’n cael eu defnyddio: amrediadau 1,2 a 3. Gweler tudalen 16 o’r Canllaw Adrodd i'r Sector Cyhoeddus Carbon Net Sero am fwy o wybodaeth amrediadau 1,2 a 3.
Rydym am ganolbwyntio ar delivery - yw cynlluniau gweithredu yn ddargyfeiriad?
Mae pawb sy o ddifrif am newid hinsawdd eisiau sicrhau uchafswm danfoniad.
Mae cynllun yn helpu sichrau danfoniad. Mae’r mudiad Dinasoedd C40 (sy’n defnyddio data a mesur yng nghanol ei gwaith) wedi darganfod bod dinasoedd ledled y byd sy’n mabwysiadu targedau sy’n gysylltiedig a gwyddoniaeth ac amlheidgarwch, ac yn creu cynllun gweithredu sy’n gysylltiedig a thystiolaeth, yn cynhyrchu tair gwaith fwy o weithrediad na’r dinasoedd sy ond yn ceisio fod yn fwy cynaladwy.
Mae cynllun strategol ar gyfer ardal lleol yn galluogi:
- Eglurder ynghlyn a’r maint, cyflymder a math o weithredu sydd angen wedi eu cefnogi gan dystiolaeth perthnasol.
- Cyfle i flaenoriaethu a trefnu weithredoedd yn effeithlon o ran arian a phwrpas.
- Cyfle i bob randeiliad i gydweithio a chreu dyfodol I'w llefydd mewn ffordd sy’n blaenoriathu gofynion lleol – cynllunio am symudiad teg i ffwrdd o gymdeithas carbon uchel i gymdeithas sy’n fwy teg a iach.
- Ystod bell a nifer fawr o gyfranogwyr sy’n barod i helpu ac i fod yn rhan o’r newid..
Cynigion prosiectau unigol sy’n gymhellol i fuddsoddiadwyr ohewrydd mae nhw’n gysylltiedig a stretegaethau fwy a newidiadau pellach.
Mae datblygu cynlluniau gweithredu yn cymryd llawer o amser – nid ydynt o reidrwydd yn arwain at wneud penderfyniadau rhesymegol
Mae cynllunio gweithredu tiriogaethol strategol yn gyfle i gasglu’r dystiolaeth berthnasol a chynnwys y rhanddeiliaid perthnasol mewn sgwrs am siapio lle mewn ffordd sy’n diwallu anghenion amgylcheddol a llesiant.
Nid bodau rhesymegol yw bodau dynol; caiff ein penderfyniadau eu llywio gan werthoedd a'r straeon rydym yn eu llunio a'u rhannu i ddeall y byd. Fodd bynnag, rydym yn cynyddu’r siawns o wynebu a mynd i’r afael â heriau, cyfleoedd, tybiaethau, ac anghydbwysedd pŵer os oes gennym ymagwedd strwythuredig, seiliedig ar dystiolaeth a chynhwysol at gynllunio camau gweithredu.
Gall protocolau ymgysylltu a llywodraethu arfer gorau helpu i ymgorffori prosesau gwneud penderfyniadau sy’n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol mewn prosesau cynllunio a chyflawni gweithredu.
Mae cynllunio gweithredu wedi'i gynllunio'n dda yn cynnwys yr holl randdeiliaid perthnasol ac maent yn llawer mwy tebygol o fod yn ymrwymedig i gyflawni gweithredol os ydynt yn ymwneud â datblygu'r cynllun.
Gwlad fach yw Cymru – a oes gwir angen cynlluniau hinsawdd nythu ranbarthol, awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol arnom hefyd?
Oes.
Mae Cymru yn amrywiol mewn sawl ffordd ac mae angen i gynlluniau hinsawdd gael eu teilwra i anghenion ac amgylchiadau lleol.
Gall cynlluniau nythu sy'n gweithredu ar wahanol lefelau gweinyddol ac ardaloedd daearyddol ddarparu'r lefel o fanylder sydd angen i ymateb i anghenion ac amgylchiadau lleol.
Yr allweddi i effeithiolrwydd cynlluniau nythu fydd:
- Defnyddio methodoleg gyson ac arfer gorau ar draws gwahanol sefydliadau.
- Eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau rhwng yr holl actorion sy'n gynwysedig, a chyfathrebu effeithiol.
- Cyd-ddylunio ac ymgysylltu i sicrhau bod pawb y mae'r cynlluniau yn eu heffeithio yn cael y cyfle i fod yn rhan o'u siapio.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r dasg i’r Parciau Cenedlaethol o fod yn “enghreifftiau o ran ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur. Rydych chi mewn sefyllfa unigryw i ymgysylltu â’r cymunedau o fewn eich ffiniau i ddatblygu datrysiad sy’n sicrhau buddion i bobl a’r amgylchedd.” Ni all parciau cenedlaethol wneud hynny heb ddatblygu cynllun strategol ar gyfer y Parc.
Beth yw fframwaith?
A oes angen fframwaith newydd arnom ar gyfer gweithredu ar sail neu dimond i lenwi rhai trefi yn y ddarpariaeth?
Mae Ras-i-Sero yn darparu dynesiad strwythurol i gynyddu gweithrediadau hinsawdd, gan ddilyn y termau isod:
ADDUNO: I roi gymaint o ymdrech ag sy’n bosib i geisio cyrraedd rhan teg o hannneri nwyon ty gwydr rhyngwladol erbyn 2030, ac i gyrraedd sero-net erbyn 2050 ar y hwyrach.
CYNLLUNIO: O fewn 12 mis cynhyrchu cynllun sydd wedi ei gefnogi gan dystiolaeth, i leihau allyriadau fel sydd wedi eu tanlinellu yn yr adduned
PARHAU: Cymryd gweithrediadau ar unwaith i geisio cyrraedd y camau i adduno
CYHOEDDI: Cyoeddi data a gweithredoedd i'r Portal Gweithredoedd Hinsawdd Rhyngwladol UNFCC.
PERSWADIO: Defnyddiwch llais a dylanwad eich mudiad i helpu cyrraedd yr adduned.
Mae dilyn y termau uchod yn darparu dull systematig sy’n cefnogi gweithrediadau cynwysiedig sy’n gysylltiedig a thystiolaeth.
Pam mae angen fframwaith cyson arnom ar gyfer cynlluniau gweithredu sail ardal ledled Cymru?
Mae angen ymagwedd gyson oherwydd bydd angen i’r cynlluniau, sy’n rhychwantu gwahanol lefelau gweinyddol ac ardaloedd daearyddol, cyflawni targedau a nodau datgarboneiddio ac addasu cenedlaethol gyda’i gilydd – dim ond fframwaith cyffredin a chyson all sicrhau nad oes bylchau ac nad oes unrhyw gyfrif dwbl.
Mae gwahanol endidau yng Nghymru yn gweithio i wahanol lefelau o uchelgais, ac mae defnyddio gwahanol fethodolegau yn ei gwneud hi’n anodd cydweithio’n effeithiol ac effeithlon.
Bydd fframwaith cyson yn ei gwneud hi’n bosibl cefnogi sefydliadau i ddarparu gwasanaethau ‘gwnewch unwaith dros Gymru’ o ansawdd uchel i sefydliadau’r sector cyhoeddus yn hytrach na cheisio darparu cymorth hinsawdd ad hoc.
Gall allyriadau gweithredol Scope 3 gynnwys nwyddau a gwasanaethau yn yr ardal leol - felly onid yw'r sector cyhoeddus eisoes yn darparu'r arweiniad lleol sydd ei angen drwy ddatgarboneiddio'r allyriadau hynny?
Bydd gaffaeliad cyhoeddus sy’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio allyriadau Amrediad 3 yn helpu siapio’r nwyddau a gwasanethau carbon isel o fewn ardal lleol. Mae felly yn rhan o’r arweiniaeth sydd ei angen.
Mae’r sector cyhoeddus wedi cael cyfrifoldeb pwysig i gataleiddio newid o fewn sectorau preifat o gwpas y byd (fel PV a bysus electronig), felly mae hwn yn bwysig.
Ond mae allyriadau sector cyhoeddus, gan gynnwys y rhai o fewn Amrediad 3, yn dal i gyfri fel rhan fach o allyriadau ardal lleol.
Mae mudiadau sector cyhoeddus efo cylch gorchwyl ardal yn unigryw gan eu bod yn gallu chwarae rol fwy trwy arwain newidiadau mawr o fewn y genhadaeth hinsawdd, a chynllun strategol ar gyfer yr ardal lleol sy’n cynnwys allyriadau (gan cynnwys addasiad ac atafaelu sy’n gysylltiedig a natur) sy’n cysylltiedig a bob ran o’r cymdeithas.
Pa drefniadau llywodraethu sydd eu hangen ar draws y sector cyhoeddus i sicrhau bod gweithredu ar yr hinsawdd yn cael ei ystyried ar y camau cynharaf un o wneud penderfyniadau?
Mae llywodraethu yn faes o arfer da sy'n dod i'r amlwg yn fyd-eang.
Mae rhai enghreifftiau da yng Nghymru gan gynnwys Sir Ddinbych yn newid cyfansoddiad yr awdurdod lleol i sicrhau bod penderfyniadau ariannol y cyngor yn cyd-fynd â chynllun hinsawdd yr awdurdod lleol. Cyflwyniad, templed Adroddiad Busnes a Thempled Adroddiad y Cyngor a gynhelir gan WLGA yma.
There are some good examples in Wales including Denbighshire changing the local authority constitution to ensure financial decisions of the council are aligned with the local authority climate plan. Presentation, template Business Report and Template Council Report hosted by WLGA yma.
Mae llywodraethu yn un o ganolbwyntiau adrodd CDP – gweler isod.
Ras i Sero dros lefelau gweinyddol Cymru
Mae Ras i Sero yn fframwaith arweiniol sy’n ddarparu strwythur ac arweiniad i sefydliadau hoffai cymryd camau tuag at ddyfodol fwy teg, gwyrdd a sero-net.
Mae hi’n fframwaith newydd, ac yng Nghymru mae sefydliadau dros amrywiaeth o lefelau gweinyddol yn symud tuag at ymuno a darganfod sut allen nhw gydweithio i gyrraedd targedau uchelgeisiol yn effeithiol.
Sefydliad
Cymru
Be all ddigwydd
Be su’n digwydd yn barod
Mae Cymru yn aelod o Ras i Sero oherwydd mae hi’n aelod o’r Glymblaid uchwelgeisiol ODan2
Cydbwyllgorau Corfforaethol
Adduno::
Fe all bob cydbwyllgor corfforaethol ddatblygu asesiad ol-troed carbon rhanbarthol i ddarganfod pa allyriadau sy’n bodoli o fewn y rhanbarth.
Fe allai gyfrifo targedau sero net sy’n ychwanegu at ‘ran teg’ o’r Cytundeb Paris. Bydd hwn yn ddangos cyflymder a maint y newid sydd ei hangen ar draws y rhanbarth.
Bydd pob bwrdd yn adduno i weithio’n galetach i gyrraedd y targed i sicrhau weithrediad systematig ar draws top y mudiad.
Bydd economoniau fawr yn galluogi gweithred effeithiol ar draws bob cydbwyllgor corfforaethol i gomisiynnu asesiadau ol-troed carbon sy’n cynnwys asesiad o’r data a gasglwyd gan bob rhanbarth.
Cynllun::
I bob RC i cydweithio gyda parteriaid i ddatblygu gweithrediadau strategol rhanbarthol yn erbyn newid hinsawdd. Bydd y gwaith hon yn gosod allan pa ymyriadau sydd eu angen i gyrraedd y targedau sero-net, a chreu fframwaith sy’n dangos pwy sy’n gyfrifol am bob ymyriad.
Bydd cysylltu cynlluniad egni rhanbarthol yn rhan bwysig iawn o’r gwaith hon.
Bydd y cynllun yn adnabod sut all bob rhanbarth gyfrannu i dargedau sectorol Cymru mewn modd sy’n cydnabod anghenion bob rhanbarth
Parhau:Pob RC yn cyflawni ei gyfrifoldebau economiadd, cynllunio a threfnidiaeth mewn modd sy’n cydnabod y targedau sero-net.
AdroddPob RC yn adrodd ar yr assesiadau carbon rhanbarthol, cynlluniau gweithredu a danfoniadau trwy’r CDP. Gallai hwn creu adborth a sylwadau manwl sy’n creu adborth ar radd rhyngwladol.
Perswadio:Fe all bob RC ddefnyddio’r tystiolaeth a’r asesiadau sy’n dod ohoni i greu polisi gweithredol ac i godi buddsoddiadau o fewn y rhanbarth i fewn i prosiectau sy’n helpu cyrraedd sero-net
Esiampl Rhanbarth Cyfalaf Caerdydd
Adduned: Yn ystod y Cop26 fe gytunodd RCC i weithio ar adduned Ras i Sero ar gyfer y rhanbarth
Mae hi wedi alinio ei strategaeth egni rhanbarthol i adduned Cytundeb Paris i greu camau sy’n creu ‘rhan teg.
Mae ganddi fwy o waith I'w wneud i ddeall pa allyrau Amrediad 3 sy’n cael eu creu yn y rhanbarth.
Awdurdodau lleol
Adduno:I bob 22 awdurdod adduno i weithio tuag at canllawiau’r Cytundeb Paris o bob ran o’r mudiad.
Os yw’r asesiadau ol-troed carbon a’r canllawiau Cytundeb Paris yn cael eu cynnal ar radd rhanbarthol, gallai’r awdurdod lleol ddefnyddio’r wybodaeth. Os nad oes wybodaeth, bydd raid i'r awdurdod lleol gomisiynu’r waith ei hunain.
Cynllun:Cydweithio gyda partneriaid, mudiadau a chymdeithasau lleol, datblygu cynllun gweithredu sy’n deall pa ymyriadau sydd eu angen i gyrraedd targedau sero-net o fewn yr awdurdod lleol. Bydd Cynlluniau Egni Lleol yn canolog I'r gwaith hon.
Bydd rhwydwaith o bwy o fewn yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am bob ymyriad yn bwysig – gan gynnwys sectorau cyhoeddus, busnesau, mudiadau a chymunedau lleol. Bydd rhaid fod yn glir ynglyn a phwy sy’n cael cyfrifoldeb o fewn yr awdurdod.
Bydd y cynllun yn adnabod sut bydd awdurdodau lleol yn cyfrannu i dargedau sectorol Cymru.
Mae hi’n bwysig bod y lefel hon o gynllunio yn rhoi pwyslais ar ymglyniad cymunedau lleol,mudiadau a busnesau, er mwyn creu camau teg tuag at sero-net.
Parhau:Dylsai bob awdurdod lleol llinellu eu cyfrifoldebau statudol, gan gynnwys eu gweithrediadau a gwasanaethau, cynllunio a threfnidiaeth, efo’r targed sero-net.
Adrodd: Fe all bob awdurdod lleol adrodd ar yr asesiad carbon, cynlluniau gweithredu a’r danfoniad o fewn yr awdurdod. Gellir helpu i ddarganfod gapiau ac osgoi ailadrodd data o’radroddiad rhanbarthol.
Bydd yr ansawdd a’r nifer o atebion yn cael eu cyfru dros amser er mwyn arbed amser.
Perswadio:: Defnyddio llais yr awdurdod lleol i wneud ceisiadau am polisiau a buddsoddiadau sy’n ceisio cyrraedd targedau sero-net. Dangos arweiniaeth lleol trwy arddangos, parterniaethau a chynnwys cymunedau, busnesau a mudiadau.
Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
Adduno:: Ni all BGC ymuno a Ras i Sero yn ffurfiol, ohewrydd ni ellir wneud addunedau sy’n dod o ‘dop y mudiad’. Fe allynt linellu eu gwaith efo Ras i Sero ac ymrywmo I'r canllawiad yn eu Cynllun Lles.
Cynllun:: Fe allai BGC cymryd arweiniaeth mewn cynlluniau gweithred yn lle’r awdurdod lleol. Gall y dynesiad hon dod a gwaith fwy effeithiol.
Parhau:: Holl aelodau BGC yn anelu eu gwaith tuag at dargedau sero-net.
Adrodd: Y BGC yn casglugwybodaeth a tystiolaeth sy’n bwysig i’r CDP.
Perswadio:Defnyddio llaid holl aelodau’r BGC i wneud cais am greu polisiau a buddsoddiadau sy’n ceisio cyrraedd targedau sero-net. Cydweithio a dangos arweiniaeth yneich mudiadau lleol trwy arddangos gwybodaeth, creu partneriaethau, ac ymgysylltu efo cymunedau, busnesau a mudiadau lleol.
Esiampl BGC Powys
Adduno:: Mae BGC Powys wedi ymrwymo i linellu ei gwaith i gyrraedd Ras i Seroo fewn ei Cynllun Lles.
Mae grwp gweithio y BGC (sy’n cynnwys Cyngor Sir Powys) wedi comisiynnu asesiad carbon lleol, a thargedau sy’n cydnabod canllawiau Cytundeb Paris.
Cynllun:: Mae’r grwp gweithio BGC yn arwain datblygiad mewn cynllun gweithredu hinsawdd. Mae hi’n datblygu ac yn cefnogi ymgysylltiad cymunedau lleol i sicrhau camau rhwydd a theg.
Parhau:: Mae’r grwp gweithio yn casglu tystiolaeth a gwybodaeth am brosiectau hinsawdd o fewn yr awdurdod lleol ac yn darganfod pa rai sydd angen eu gwella er mwyn cyrraedd y targedau sero-net.
Adrodd: Mae’r grwp gweithio wedi cychwyn paratoi atebion I'r arolwg CDP ar ran yr awdurdod lleol.
Perswadio:: Mae’r grwp gweithio yn datblygu rhaglen o ymgysylltu i ysbrydoli mudiadau a chymunedau lleol i gymryd rhan yn y gweithrediadau i gyrraedd canllawiau’r Cytundeb Paris.
Parciau Cenedlaethol
Parciau Cenedlaethol
Adduno:I bob un o byrddau awdurdod parciau cenedlaethol Cymru adduno i weithio tuag at dargedau’r Cytundeb Paris.
Cynllun:: Mae pob parc cenedlaethol yn y DU yn datblygu cynlluniau gweithredoedd hinsawdd yn gysylltiedig a’u addunedau, yn gynnwys cymunedau a mudiadau lleol yn eu gwaith.
Parhau:: Mae parciau cenedlaethol y DU yn cynllunio i adnabod gweithredoedd pwysig sydd angen eu gwella, ac i gydweithio i gael buddsoddiadau.
Adrodd: Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi adrodd ei asesiad o allyriadau, cynlluniau hinsawdd a gweithredoedd I'r CDP yn 2023. Y bwriad yw i bob parc Cymru gwneud yr un peth yn 2024.
Perswadio:: Mae parciau cenedalethol y DU yn cynllunio cynllun i gydweithio ar ymgyrch cyfarthrebu i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith mae’r parciau cenedlaethol yn eu gwneud i ateb I'r argyfwng hinsawdd. Bydd hwn yn cyfle i hybu polisiau, buddsoddiadau, partneriaethau ac agweddau newydd.
Mae grwp cymunol Ras i Sero ym Mannnau Brycheiniog wedi cael ei sefydlu, ac wedi ei ysbrydoli can ei gweledigath lleol i rhyngwladol. Mae’r rhwydwaith o gymunedau yn gweithio tuag at sicrhau cyfraniadau gan yr holl gymuned i gyrraedd sero-net.
Trefni a Chyngorau Cymunedol
Fe allai trefi mawr a chyngorau cymunedol ar draws Cymru manteisio oddi wrth deall eu ol-troed lleol, a sut i ddefnyddio’r 5 term uchod i gyflymu eu gwaith hinsawdd.
Nid oes dim wedi ymuno hyd yn hyn.