
Ras i Sero
Mae Ras i Sero yn ymgyrch fyd-eang sy’n denu actorion anwladwriaethol – gan gynnwys cwmnïau, dinasoedd, rhanbarthau, sefydliadau ariannol, addysgol a gofal iechyd – i gymryd camau llym ac ar unwaith i haneru allyriadau byd-eang erbyn 2030 a sicrhau byd di-garbon iachach a thecach.
Dysgwch fwy am Ras i Sero ar wefan Pencampwyr Lefel Uchel UNFCCC..
Mae meini prawf 'llinell gychwyn', a elwir yn Saesneg yn ‘the 5 Ps, yn ei gwneud yn ofynnol i aelodau Addo (Pledge), Cynllunio (Plan), Bwrw Ymlaen (Proceed), Cyhoeddi (Publish) a Pherswadio (Persuade).

Addo:
Gweithredu tuag at neu y tu hwnt i gyfran deg o’r gostyngiad byd-eang o 50% mewn nwyon tŷ gwydr sydd ei angen erbyn 2030, a chyrraedd sero net erbyn 2050 fan bellaf.
Cynllunio:
Cyn pen 12 mis, llunio cynllun lleihau allyriadau seiliedig ar dystiolaeth, yn unol â'r addewid.
Bwrw ymlaen:
Cymryd camau uniongyrchol tuag at gyflawni'r addewid.
Cyhoeddi:
Ymrwymo i adrodd am ddata a chamau gweithredu mewn perthynas â chyflawni'r addewid, a hynny yn gyhoeddus ac yn flynyddol o leiaf – gan eu mewnbynnu i Borth Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd Byd-eang Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd.
Perswadio:
Cysoni gweithgareddau lobïo ac eirioli â sero-net trwy fynd ati mewn modd rhagweithiol i gefnogi polisïau hinsawdd sy'n gyson â meini prawf Ras i Sero.