Sefydlwyd rhaglen DK2020 gan Realdania yn 2019 er mwyn helpu rhanbarthau dinesig i baratoi cynlluniau gweithredu newid hinsawdd lleol ac uchelgeisiol, a fydd yn arwain y ffordd tuag at niwtraliaeth yng nghyswllt newid hinsawdd erbyn 2050 fan bellaf.
Heddiw, bedair blynedd yn ddiweddarach, mae 97 (allan o 98) o ranbarthau dinesig Denmarc wedi ymuno â’r cynllun, sy’n golygu mai Denmarc yw’r wlad gyntaf yn y byd lle mae bron bob rhanbarth dinesig wedi ymrwymo i lunio cynlluniau gweithredu newid hinsawdd er mwyn cyrraedd y targed o 1.5° a osodwyd â Chytundeb Paris. Nid oherwydd ei bod yn ofynnol iddynt wneud hynny mewn unrhyw ffordd trwy ddeddfwriaeth neu reoliadau (does dim rhaid iddynt) – ond er mwyn dangos mewn ffordd wirioneddol ysbrydoledig eu bod yn ystyried eu hunain yn atebol, yn ymroddedig ac yn barod i weithredu yn lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Trwy ymuno â DK2020, cynigir cefnogaeth a fframwaith cydlynol i ranbarthau dinesig i’w galluogi i ddatblygu neu uwchraddio eu cynlluniau gweithredu newid hinsawdd presennol i gydymffurfio â’r arferion gorau yn rhyngwladol; yn fwyaf penodol, y Fframwaith Cynllunio Gweithredu ar Newid Hinsawdd (CAPF) a ddatblygwyd gan rwydwaith C40 y dinasoedd rhyngwladol. DK2020 yw’r tro cyntaf i’r safon ryngwladol uchelgeisiol hon gael ei haddasu a’i chymhwyso i’w defnyddio mewn dinasoedd ac ardaloedd dinesig llai.
Sefydlwyd y CAPF a Dinasoedd C40 – fel Ras i Sero – yng nghyd-destun trefol rhai o’r megaddinasoedd mwyaf uchelgeisiol yn y byd o safbwynt newid hinsawdd. Wrth gwrs, bydd y dasg o leihau allyriadau yn edrych yn wahanol iawn o safbwynt maer ym Melbourne neu Ddinas Mecsico, o gymharu â thirwedd ddinesig yn Nenmarc sydd â mosaig amrywiol o ardaloedd trefol a gwledig, sy’n llai o ran maint, sydd â dwysedd poblogaeth is, ac sy’n cwmpasu nifer o wahanol ofynion a buddiannau gweithredol, yn amrywio o seilwaith a datblygu trefol i amaethyddiaeth a chynhyrchu ynni.
Felly sut mae’r broses o wneud penderfyniadau dinesig sy’n sensitif i gyd-destunau yn Nenmarc yn ffitio i mewn i fframwaith safonedig rhyngwladol fel CAPF? Mae tua 64 o wahanol gategorïau o gynlluniau wedi’u cyflwyno yn yr 20 cynllun gweithredu cyntaf ar yr hinsawdd, ac mae hynny ynddo’i hun yn awgrymu nad yw safoni fframwaith o reidrwydd yn golygu safoni cynnwys. Yn hytrach, ein profiad ni yw bod gweithio mewn fframwaith cyffredin wedi cefnogi effeithlonrwydd ac wedi galluogi cyfnewid gwybodaeth, rhannu ysbrydoliaeth a chydweithredu ar draws ffiniau dinesig, gan ehangu cwmpas cynllunio yn lleol i weithredu ar newid hinsawdd, yn hytrach na’i gyfyngu.
Mantais bwysig arall yw bod defnyddio fframwaith cyffredin ar draws ardaloedd dinesig wedi’n galluogi i ddadansoddi cyfraniad cyfunol y cynlluniau sydd wedi eu cwblhau tuag at leihau allyriadau – yn y bôn, ateb y cwestiwn pwysicaf oll o bosibl: Ydyn ni, mewn gwirionedd, ar y trywydd cywir?
Ychydig wythnosau yn ôl, cawsom ateb rhagarweiniol, wrth i ni fynd ati i ddadansoddi a mesur y 59 cynllun gweithredu hinsawdd dinesig sydd wedi cael eu cwblhau a’u hardystio hyd yn hyn. Wrth wneud hyn aseswyd a ellir dweud bod y targedau, y camau gweithredu a’r trywyddion yn gydnaws â chytundeb Paris. Mae’r IPCC, yn ei adroddiad synthesis yn ddiweddar, wedi amcangyfrif y bydd angen gostyngiad o 43% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr yn 2030, o gymharu â 2019, er mwyn cyfyngu cynhesu i 1.5°C, heb fynd lawer yn uwch na hynny. Os edrychwn ar 59 ardal ddinesig Denmarc, mae ganddynt ostyngiad cyfunol wedi’i dargedu o 62 % o’i gymharu â’u hallyriadau blwyddyn sylfaen (yn cwmpasu 2016-2020), ac yn eu trywyddion seiliedig ar weithredu maent yn disgwyl gostyngiad cyfunol mewn allyriadau o 56 %, gan ragori ar y gostyngiad o 43 % a osodwyd fel targed. Gwelwn fod hyn yn unol â’r dull cyllidebu carbon sy’n seiliedig ar ‘gyfran deg’ y cyfeirir ato yn adroddiad Deadline 2020 y C40, gan fod gan ardaloedd dinesig Denmarc y capasiti, ac o ganlyniad y cyfrifoldeb, i leihau allyriadau yn fwy na’r cyfartaledd byd-eang.
Byddai’n anodd – os nad yn amhosibl – sicrhau’r lefel hon o dryloywder heb fframwaith cyffredin a’r data cyson a chymaradwy y mae’n eu cynhyrchu. Ac rwy’n credu y bydd gan hyn rôl hanfodol i’w chwarae er mwyn datblygu a chadw ymddiriedaeth y cyhoedd wrth i ni symud ymlaen tuag at y newid mawr ei angen.
Credaf fod DK2020 a Ras i Sero Cymru yn enghreifftiau da o’r agwedd ryngwladol-i-leol ‘popeth, ym mhobman, yr un pryd’ tuag at weithredu ar newid hinsawdd y gelwir amdano yn adroddiad diweddaraf yr IPCC, fel y cafodd ei gyflwyno gan Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres, ym mis Mawrth. Mae’n fraint fawr cael dilyn eich gwaith uchelgeisiol ac edrychaf ymlaen at rannu mwy o wersi o Ddenmarc ar ein ras gyffredin tuag at sero.
