Ardaloedd gwledig yn ogystal â threfol yn hollbwysig yn y Ras i Sero 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Barciau Cenedlaethol Cymru “fod yn esiampl wrth ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur”. Mae hon yn her yr ydym yn ei chroesawu. Rydym wedi ymrwymo i ddangos y cyfraniad hollbwysig y gall ardaloedd gwledig ei wneud yn yr argyfwng hwn - cyfraniad y mae’n rhaid iddynt ei wneud - a sut y gellir gwneud hynny mewn ffordd deg heb adael neb ar ôl, ac adeiladu economïau gwledig cryfach a mwy cynaliadwy.   

Rhaid i fethiant y naill COP ar ôl y llall i roi dynoliaeth ar lwybr addas ar gyfer byw fod yn sbardun i fwy o weithredu, nid llai. Gwyddom fod effeithiau newid difrifol yn yr hinsawdd yn digwydd hyd yn oed yn gynt nag a ragfynegwyd gan wyddonwyr, â hanner poblogaeth y byd eisoes yn dioddef llifogydd dychrynllyd, sychder, stormydd eithafol a thanau gwyllt. Mae’r argyfwng hinsawdd yn digwydd ’nawr – yn difetha bywoliaeth, yn amharu ar ddiogeledd bwyd, yn gwaethygu gwrthdaro dros adnoddau prin ac yn achosi i fwy o bobl orfod gadael eu cartrefi. Yma yng Nghymru hyd yn oed rydym yn gweld tonnau gwres, sychder a llifogydd mwy eithafol oherwydd y newid difrifol yn yr hinsawdd. Rydym yn dibynnu ar fyd natur, ond mae’n mynd yn fwyfwy anodd i bobl a natur addasu i’r newidiadau hyn.  

Ein gweledigaeth ni yma ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw economi sy’n seiliedig ar natur, lle bydd pobl a natur yn ffynnu gyda’i gilydd. Er mwyn cyflawni hyn, rydym wedi pennu pum cenhadaeth feiddgar ar gyfer dyfodol y Parc Cenedlaethol. Ein cenhadaeth ar gyfer yr hinsawdd yw cyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net ar draws y Parc Cenedlaethol erbyn 2035.  

Mae hwn yn darged anodd iawn ei gyrraedd, ond mae’n seiliedig ar ddadansoddiad manwl o gyfran deg y Parc Cenedlaethol o’r gostyngiad byd-eang o 50 y cant mewn CO2 atmosfferig, sy’n hanfodol erbyn 2030 yn ôl gwyddonwyr hinsawdd. Mae ‘Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang’ yn ganolog i’r ddeddf arloesol yng Nghymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, ac wrth osod nodau fel hyn, sy’n seiliedig ar wyddoniaeth a thegwch, a gweithredu er mwyn eu cyflawni y mae’r Ddeddf yn dod yn real.  

Nid ni yw’r unig rai sy’n gosod nodau clir sy’n gydnaws â Chytundeb Paris ac sy’n benderfynol o’u cyflawni. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a phob Parc Cenedlaethol arall yn y DU, wedi ymrwymo i ymuno â Ras i Sero y Cenhedloedd Unedig ac i fod yn rhan o’r ymdrech gyffredin fyd-eang i leihau allyriadau, newid economeg tanwydd ffosil, a dangos y gall mynd i’r afael â newid hinsawdd fod yn dda i bobl yn ogystal ag i’r blaned.  

Roedd gan Ras i Sero wreiddiau trefol, â bron i 100 o fegaddinasoedd mwyaf y byd yn arloesi â ffyrdd o gyflymu datgarboneiddio yn unol â thargedau cyfran deg. Mae’n amser i ni ddangos yn awr bod ardaloedd gwledig yn chwarae ein rhan hefyd. Gwyddom na fydd datgarboneiddio cyflym yn ddigon i sefydlogi’r hinsawdd – mae angen i ni amddiffyn a chynyddu gallu natur i dynnu carbon o’r atmosffer.  

Mae sector cyhoeddus Cymru wedi bod yn canolbwyntio ar leihau ei allyriadau ei hun – ac rydym ninnau’n rhoi trefn ar ein tŷ hefyd. Mae ein hadeiladau’n cael eu pweru gan ynni adnewyddadwy, ac rydym yn newid ein cerbydau a’n peiriannau i weithio ar drydan cyn gynted ag y mae technoleg yn caniatáu. Ond mae gan Barciau Cenedlaethol ac awdurdodau lleol ran lawer mwy i’w chwarae wrth arwain camau gweithredu ym mhob rhan o’n cymunedau lleol, sydd wedi’u gwreiddio mewn ymgysylltu cymunedol cynhwysol – felly mae’r penderfyniadau’n cael eu gwneud yn nes at y rhai a fydd yn cael eu heffeithio. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gorgyffwrdd â naw awdurdod lleol, ac mae cydweithio ar draws y gweinyddiaethau hyn yn hollbwysig er mwyn cyflawni cenhadaeth hinsawdd y Parc Cenedlaethol. Rydym yn falch bod saith o’r naw awdurdod lleol rydym yn gorgyffwrdd â hwy hefyd ar lwybr i ymuno â Ras i Sero, a gobeithio y bydd pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn ymuno â’r Ras.